Cyn-ymgeisydd UKIP yng Nghymru yn ymuno â'r Ceidwadwyr

Alexandra Phillips
Image caption Mae Alexandra Phillips wedi bod ar ochr Nathan Gill yn y ffrae gydag arweinydd UKIP yn y Cynulliad, Neil Hamilton

Mae un o gyn-ymgeiswyr UKIP yng Nghymru wedi gadael y blaid.

Alexandra Phillips oedd pennaeth cyfathrebu UKIP yng Nghymru ar gyfer etholiadau'r Cynulliad, ac roedd hi hefyd yn ail ar restr y blaid yn rhanbarth Canol De Cymru.

Ond mae hi nawr wedi penderfynu ymuno â'r Ceidwadwyr, gan ddweud bod y prif weinidog newydd, Theresa May, wedi creu cryn argraff arni.

Mae hi wedi cadarnhau fodd bynnag ei bod hi'n dal yn ymgynghorydd i Nathan Gill, arweinydd UKIP yng Nghymru sydd bellach yn eistedd fel AC annibynnol ym Mae Caerdydd.

Ffan o Farage

Dywedodd Ms Phillips wrth BBC Radio 4 bod "tipyn o ddrwgdybiaeth, tipyn o genfigen, tipyn o chwerwder a dicter" o fewn UKIP ar hyn o bryd, a bod hynny'n rhan o'r rheswm ei bod hi wedi gadael.

Fe bwysleisiodd ei bod hi'n "ffan mawr" o Nigel Farage, sy'n camu lawr fel arweinydd, ond ei fod hefyd yn wleidydd a greodd rwygiadau o fewn y blaid.

Mae hi bellach yn aelod o'r Blaid Geidwadol a hynny, meddai, oherwydd ei bod hi'n cytuno â pholisïau Mrs May ar ysgolion gramadeg, nwy siâl, a'i safbwynt ar Brexit.

Ychwanegodd ei bod hi'n dal i gynghori Mr Gill fodd bynnag, a hynny "fel unigolyn proffesiynol" yn hytrach na rhywun oedd yn gyflogedig gan UKIP.

Straeon perthnasol