Ewrop yn dal yn 'rhan o DNA' y Democratiaid Rhyddfrydol

cadan ap tomos

Ym mis Mai fe gafodd A.C. y Democratiaid Rhyddfrydol ei phenodi fel gweinidog yn Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf mewn 13 mlynedd, wrth i Kirsty Williams dderbyn portffolio'r Ysgrifennydd Addysg.

Ond ar y cyfan prin fu'r newyddion da i'r blaid dros y blynyddoedd diwethaf - ar ôl colli mwyafrif eu seddi yn etholiad cyffredinol 2015, fe ddigwyddodd yr un peth yn etholiadau'r Cynulliad eleni gan eu gadael nhw ag un A.C. yn unig.

Mae'n ymddangos fod y blaid yn dal i ddioddef o'u cyfnod yn y glymblaid yn San Steffan, gydag ychydig iawn yn newid yn y polau er gwaethaf dewis Tim Farron fel arweinydd newydd y llynedd.

Ar drothwy cynhadledd y Democratiaid Rhyddfrydol yn Brighton eleni bu Cymru Fyw yn holi Cadan ap Tomos, ymgeisydd dros y blaid yng Ngorllewin Caerdydd yn etholiadau'r Cynulliad.

Beth allwn ni ei ddisgwyl fel prif bynciau trafod eich cynhadledd eleni?

"Ni fel aelodau sy'n cael dewis a phenderfynu ar bolisïau i'w trafod, yn wahanol i unrhyw blaid arall. Ond y prif bwnc trafod, fel ar draws y wlad, fydd Brexit, a chanlyniadau a goblygiadau hwnnw a beth mae hynny'n meddwl ar gyfer ein gwlad.

"Mae'r bleidlais wedi digwydd ac mae'n rhaid i ni barchu hwnnw, ond y broblem sydd gennym ni a'r llywodraeth yw bod neb yn gwybod beth mae Brexit yn edrych fel, pa fath o berthynas fyddwn ni'n wynebu efo'r Undeb, y farchnad sengl, os ydyn ni am wynebu tariffs, fisas - mae'r holl gwestiynau yma yn yr awyr.

"Ond rydyn ni'n credu y dylai pobl Prydain gael y cyfle i ddweud eu dweud ar y ddêl, beth bynnag sy'n cael ei gytuno ar y broses hynny, gan fod cymaint o bobl wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ar sail addewidion gafodd eu rhoi iddyn nhw gan yr ymgyrch 'Gadael'."

Sut fath o awyrgylch ydych chi'n ei ddisgwyl yn y gynhadledd?

"Byddwn i'n disgwyl i'r rhan fwyaf o bobl yno fod yn siomedig - mae bod yn rhan o Ewrop a chyfrannu i'r prosiect Ewropeaidd yn rhan o'n DNA ni fel plaid, 'dyn ni'n credu'n gryf iawn ynddi.

"Byddwn ni'n defnyddio'r gynhadledd hwn i drafod a phenderfynu ar y ffordd ymlaen ar beth 'dyn ni eisiau gweld allan o drafodaethau Brexit a beth 'dyn ni eisiau gweld i'n cymdeithas ni.

Image caption Kirsty Williams yw'r unig Aelod Cynulliad sydd gan y blaid ar ôl

Mae polisïau fel gwrthwynebu casglu data torfol, a chyfreithloni gweithwyr rhyw ar yr agenda yn y gynhadledd - ydi hyn yn dangos plaid sydd yn ailffocysu ar ei gwerthoedd rhyddfrydol craidd?

"Dw i ddim yn credu ein bod ni erioed wedi stopio gwneud hynny. Os edrychwch chi ar gynhadleddau'r gorffennol rydyn ni wastad wedi bod yn blaid sydd â chymaint o syniadau a chynlluniau i wella'n gwlad ni a'i gwneud hi'n un fwy rhyddfrydol.

"Beth 'dyn ni'n gwneud nawr gallu dysgu o'n profiad ni fel rhan o'r llywodraeth. Gyda chasglu data, roedd hwnnw'n rywbeth wnaethon ni stopio Theresa May rhag gwneud fel rhan o'r llywodraeth glymblaid, y snoopers charter oedd am rhoi cymaint o bŵer i'r llywodraeth a'r heddluoedd ymyrryd ar fywydau preifat unigolion ar draws ein gwlad."

A yw'r blaid yn dal i geisio dod dros y glymblaid a chyfnod Nick Clegg fel arweinydd?

"Rydyn ni'n parchu'r bobl yna sydd gydag amheuon ynglŷn â'n plaid ni, 'dyn ni'n hollol ymwybodol bod rhaid ni weithio'n galed i ddenu pobl yn ôl a chael nhw i faddau i ni eto.

"Mae'r gosb gaethon ni yn yr etholiad yna cymaint mwy o werth i ni nac unrhyw blaid arall, oherwydd ein bod ni nawr mewn sefyllfa i ddysgu o hynny a pheidio â gwneud addewidion 'dyn ni methu cadw - gwneud cynnig gonest, cynnig realistig, ond cynnig radical hefyd.

"Ond mae cymaint o bethau mae'r Ceidwadwyr wedi gwneud [ers 2015] fel ceisio cael gwared â'r Ddeddf Hawliau Dynol, torri budd-daliadau, pethau wnaethon ni stopio rhag digwydd, a dwi'n meddwl bod pobl yn dechrau sylwi bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwneud bach o dda yn y llywodraeth.

Image caption AS Ceredigon, Mark Williams yw arweinydd y blaid yng Nghymru bellach

A yw Tim Farron wedi llwyddo i argyhoeddi fel arweinydd eto?

"Mae e'n mynd i fod yn sefyllfa anodd i unrhyw un yn y sefyllfa yna, gyda dim ond wyth AS, i ddechrau ailadeiladu'r blaid. Ond dwi'n meddwl bod Tim Farron 'di dechrau creu lle o fewn gwleidyddiaeth Prydain i ni fod yn radical, yn rhyddfrydol eto, heb gywilydd o beth ydyn ni.

"Mae e wedi bod yn swnllyd ers Brexit am beth 'dyn ni'n credu fel plaid, ac mae hynny wedi arwain at 17,000 o aelodau newydd ar draws Prydain. Mae tystiolaeth bod pobl yn dechrau dod 'nôl aton ni eto, eisiau gwrando, eisiau pleidleisio ac yn fodlon cefnogi."

O gofio canlyniad etholiadau'r Cynulliad eleni, oes perygl i'r Democratiaid Rhyddfrydol fynd yn amherthnasol yng Nghymru?

"Na dw i ddim yn credu, a dwi'n meddwl bod cael Kirsty [Williams] yn rhan o'r llywodraeth yn dangos pa mor berthnasol ydyn ni - mae hi fel Ysgrifennydd Addysg yn rhoi cymaint o'n polisïau a'n syniadau ni ar waith.

Beth fydd Kirsty'n gallu gwneud dros y pum mlynedd nesaf yw dangos buddiannau cael Democratiaid Rhyddfrydol mewn grym a sut mae hynny'n gallu newid ein gwlad er gwell. Dwi'n sicr bod ganddi hi'r awch a'r cynllun i lwyddo yn y rôl yna."