UKIP dal yn "blentyn sy'n tyfu lan" medd cyn-ymgeisydd

Ken Rees

Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn rhai cythryblus i UKIP yn dilyn llwyddiant gwleidyddol yng Nghymru a'r DU.

Ar ôl cipio saith sedd yn etholiadau'r Cynulliad fis Mai, roedd gorfoledd pellach pan enillwyd refferendwm ar y pwnc sydd agosaf at galon y blaid - gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'r blaid hefyd wedi gweld newid ar y brig, gyda Nigel Farage yn camu o'r neilltu a Diane James yn cael ei hethol yn ei le.

Ond bu ffraeo tanbaid rhwng aelodau UKIP yng Nghymru, gyda Neil Hamilton yn disodli Nathan Gill fel yr arweinydd ym mae Caerdydd a Mr Gill bellach yn eistedd fel aelod annibynnol.

Ar drothwy cynhadledd y blaid yn Bournemouth y penwythnos hwn bu BBC Cymru Fyw yn sgwrsio â Ken Rees, oedd yn ymgeisydd UKIP yn ardal Llanelli yn etholiad cyffredinol 2015 ac etholiadau'r Cynulliad eleni.

Oeddech chi wedi cefnogi Diane James fel arweinydd newydd y blaid? Pa mor anodd fydd hi iddi olynu Nigel Farage?

"Rwy'n hyderus iawn bod y person iawn wedi cael ei hethol. Yn yr hystings yng Nghasnewydd roedd hi'n llawer mwy proffesiynol na'r pedwar arall. Mae llawer o brofiad gyda hi yn yr adran iechyd, a byddwn i'n edrych i weld yr adran yna'n cael ei adlewyrchu yn ei pholisïau hi.

"Mae 'na wahaniaethau wedi bod o ddifrif yn y blaid ond fi'n credu bydd Diane yn ymuno pobl nôl gyda'i gilydd. Rhowch amser iddi hi ddatblygu, mae hi'n fenyw profiadol iawn, ac mae gyda fi ffydd ynddi byddwn ni'n gallu bwrw 'mlaen i ddyddiau newydd.

"Y cyfryngau sydd wedi bod moyn siarad â Farage trwy'r amser, a dim rhoi cyfle i'r eilyddion yn y parti ddod ymlaen. Nawr mae amser iddyn nhw ddatblygu."

Sut awyrgylch sydd ymysg aelodau'r blaid ar drothwy'r gynhadledd?

"Mae'n orfoleddus ers y refferendwm, achos hwnna oedd yr ymdrech fawr i ni, mae pobl yn dod atom ni nawr llawer yn rhwyddach, a credu ynddon ni tamed bach mwy cadarn.

"Mae'n druenus bod ambell un fel Alex Phillips wedi gadael, ond dwi'n siŵr bydd eraill yn dod i gymryd eu lle."

Image copyright AFP
Image caption Diane James - arweinydd newydd UKIP

Yw hi'n destun pryder mai'r cecru o fewn y blaid sy'n denu sylw ar hyn o bryd, nid y perfformiad yn etholiadau'r Cynulliad?

"Mae'r pleidiau eraill yn hapus i neidio ar unrhyw fymryn bach o gecru sydd gyda ni, a gwneud mwy mas o fe. Ond nawr mae'n amser i ni ganolbwyntio ar bolisïau a cael gwellhad.

"Mae parti newydd fel plentyn sy'n tyfu lan, mae fel tyfu dannedd. Ond mae'n rhaid sorto [y cecru] mas, mae'n rhaid i ni gydweithio.

"Mae'n rhaid iddo fe [Neil Hamilton] ddysgu ei wersi, mae un neu ddau o bethau wedi mynd yn lletchwith, ond mae'n gwneud ei orau i weithio yn yr ardal ei etholaeth.

"Mae'n drueni bod un yn gwthio'r llall ar y funud, mae Hamilton a Nathan [Gill], mae'n rhaid iddyn nhw eistedd rownd y bwrdd a siarad am y ffordd ymlaen."

Oes pwrpas i UKIP bellach yn dilyn canlyniad y refferendwm?

"Mae rhai pobl yn meddwl ein bod ni wedi gwneud ein gwaith ni, a nawr mae'n amser i roi lan. Ond na, mae e mor bwysig ag erioed bod ni'n cadw at ddatganiad y refferendwm, bod ni yn ymadael ag Ewrop, a'n bod ni ddim yn rhan o Unol Daleithiau Ewrop fel mae e nawr.

"Dy'n ni ddim yn erbyn rhyddid i symud cyhyd â'n bod ni'n gallu ei reoli. Bydde dim gwasanaeth iechyd gyda ni heb bobl yn dod o dramor er enghraifft."

Image caption Mae'r blaid yng Nghymru wedi cael ei rhwygo gan ffraeo mewnol rhwng Neil Hamilton a Nathan Gill

Beth am yr addewidion gafodd eu gwneud yn ystod y refferendwm? A ddylai etholwyr gael y cyfle i bleidleisio mewn ail refferendwm neu etholiad unwaith y byddan nhw'n gwybod canlyniad y trafodaethau?

"Bydd 'na fwy o arian yn dod nôl i ni yn y Deyrnas Unedig, am bob punt ni'n rhoi draw ni'n cael 70c nôl, a nhw sy'n dweud wrthon ni sut i wario'r 70c yna. Mae UKIP wedi bod yn gweld drwy'r niwl hwn.

"Nonsens yw [cynnal ail bleidlais]. Ni wedi gwneud y bleidlais, a'r ateb wedi dod nôl, a nawr bod rhai pobl ddim yn hoffi beth maen nhw 'di clywed maen nhw eisiau ailadrodd. Ni wedi gwneud penderfyniad, dyna fe."

Ydych chi'n credu bod eich plaid chi'n gwneud digon i hyrwyddo'r Gymraeg?

"Mae'n drueni bod dim un o'r saith gafodd eu hethol [i'r Cynulliad] yn gallu cyfathrebu yn Gymraeg. Bydden i wedi meddwl bydde'r iaith Gymraeg wedi golygu mwy o bwyntiau i fynd yn agosach i'r brig [yn y rhestrau rhanbarthol] i'r ddau o ni [yntau a Gethin James, oedd yn ail ddewis yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru].

"Rhaid iddo fe fod yn fwy o ystyriaeth... ac mae'n rhaid nhw ffeindio cyfieithydd lan yng Nghaerdydd i roi materion yn Gymraeg ar y we hefyd.

"Dwi'n cystal Cymro ag unrhyw aelod o Blaid Cymru, allai ddweud 'ny. Roedd fy nhad yn dweud wrtho'i am y drwg mewn cenedlaetholdeb."

Onid yw UKIP hefyd yn blaid genedlaetholgar?

"Ddim yn yr un achlysur. Roeddwn i'n Rhyddfrydwr am flynyddoedd… ond beth ddaeth yn fwy pwysig i fi oedd undod y Deyrnas Unedig, a dim chwalu lan y Deyrnas Unedig fel oedd yr Albanwyr moyn gwneud."