Croesawu Jade Jones adref i'r Fflint

Jade Jones Image copyright Getty Images

Bydd derbyniad dinesig yn cael ei chynnal yn neuadd y dref Y Fflint ddydd Sadwrn i gydnabod llwyddiant Jade Jones yng Ngemau Olympaidd 2016 yn Rio.

Fe gipiodd yr ymladdwraig taekwondo fedal aur yn y gystadleuaeth 57kg i ferched, gan ychwanegu at yr un a enillodd hi yng Ngemau Llundain yn 2012.

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Maer Y Fflint, eu bod yn "falch iawn o Jade a'i llwyddiant parhaus" ac yn edrych ymlaen at y parti haeddiannol i'w chroesawu yn ôl.

"Mae Cyngor Tref y Fflint yn hapus iawn i'w anrhydeddu gyda'r derbyniad dinesig hwn," meddai.

"Rydym yn gobeithio y bydd pobl Fflint yn dod i Neuadd y Dref i ddangos i Jade faint o feddwl sydd gennym o'i llwyddiannau Olympaidd gwych."

Fe fydd Jade Jones yn teithio o amgylch ei thref enedigol mewn bws agored fel rhan o'r digwyddiad, fel y gwnaeth hi yn dilyn ei buddugoliaeth yn 2012.

Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: "Mae llwyddiannau y DU yn Rio wedi bod o'r radd flaenaf, ac mae'r ffaith fod Jade, athletwr o Sir y Fflint, wedi cyfrannu'n sylweddol at le Tîm GB yn nhabl y medalau yn ysbrydoledig iawn.

"Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi Cyngor Tref y Fflint wrth groesawu Jade adref mewn steil. Mae hi'n rôl fodel gwirioneddol i bobl ifanc sy'n tyfu i fyny yn Sir y Fflint ac yn dangos sut, gydag awydd gwirioneddol, y gallwch gyflawni eich breuddwydion."

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett: "Rwy'n gobeithio y bydd llwyddiant Jade yn ysbrydoli preswylwyr Sir y Fflint o bob oedran i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae gan taekwondo gysylltiadau lleol cryf ac rwy'n siŵr y bydd cynnydd mewn diddordeb i gyrsiau i ddechreuwyr yn dilyn llwyddiant Olympaidd ysbrydoledig Jade."

Image caption Roedd 'na ddathlu mawr yn y dref pan lwyddodd Jade Jones i adennill ei medal aur yn Rio