Cyhuddo dyn o lofruddiaeth yn Abertawe

Alison Jane Farr-Davies and her dog, Max Image copyright Family photo

Mae dyn 37 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio Alison Jane Farr-Davies o Abertawe.

Daeth yr heddlu o hyd i gorff Ms Farr-Davies, 42 oed, mewn tŷ yn Ffordd Castell-nedd yn ardal Hafod, ddydd Mawrth.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru fod Dean Marcus Jones, 37 oed, wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth a bydd yn ymddangos gerbron ynadon Abertawe ddydd Sadwrn.

Byddai Ms Farr-Davies wedi dathlu ei phen-blwydd yn 43 ddydd Gwener.