Brexit: Pwy fydd â'r gair olaf o ran y DU?

Alun Cairns
Image caption Cafodd Alun Cairns ei benodi'n Ysgrifennydd Cymru yn San Steffan eleni

Mae Ysgrifennydd Cymru wedi dweud mai ei rôl ef fydd sicrhau fod Cymru yn gwbl ganolog i delerau Brexit y DU.

Ond fe bwysleisiodd Alun Cairns mai'r prif weindog, Theresay May, fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol.

Daw hynny wedi i brif weinidog Cymru, Carwyn Jones, ddweud fod yn rhaid i bedwar o seneddau'r DU - Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a San Steffan - "gytuno ag unrhyw gytundeb sy'n cael ei lunio gan Lywodraeth y DU".

Mae Theresa May wedi dweud ei bod hi am i Lywodraeth Cymru "fod yn rhan o'r trafod" ar Brexit.

'Dim feto'

Yr wythnos diwethaf, wrth ymweld â Chicago, dywedodd Carwyn Jones y byddai trafodaethau Brexit yn methu petaen nhw'n datblygu yn "ddeialog dwyffordd rhwng Brwsel a Llundain".

"Mae'n rhaid i Gaerdydd, Caeredin, a Belfast fod â chadair wrth y bwrdd trafod," meddai.

Dywedodd Mr Jones nad oedd yn gallu gweld sefyllfa lle "byddai Cymru yn rhoi sêl bendith" oni bai fod y farchnad sengl yn cael ei diogelu, a bod hawliau dinasyddion y gwledydd Ewropeaidd hefyd yn cael eu diogelu.

Roedd rhai yn gweld sylwadau Mr Jones fel bygythiad i geisio rhoi feto ar unrhyw gytundeb Brexit.

Ond mewn cyfweliad ar raglen Sunday Politics Wales y BBC gwadodd Mr Jones, arweinydd Llafur yng Nghymru, iddo erioed "alw am feto".

Image copyright Getty/BBC
Image caption Mae Carwyn Jones wedi gwadu galw am feto dros delerau Brexit

"Beth rwyf wedi ei ddweud yw fy mod yn meddwl ei bod yn iawn y dylai'r pedwar senedd roi sêl bendith ar unrhyw gytundeb sy'n cael ei lunio gan Lywodraeth y DU," meddai.

"Byddai ddim yn iawn pe bai Llywodraeth y DU yn llunio'r cytundeb ar amaeth a physgota pan nad oes ganddynt unrhyw rôl mewn amaeth a physgodfeydd yng Nghymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon.

"Pe bai Llywodraeth y DU eisiau sicrhau'r gefnogaeth fwyaf posib i unrhyw gytundeb ar draws y DU, yna mae'n rhaid iddynt geisio cefnogaeth yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon."

Wrth ymateb i'r sylwadau dywedodd Ysgrifennydd Cymru mai penderfyniad i gabinet Llywodraeth y DU a'r prif weinidog, Theresa May fyddai hyn yn y pen draw.

Dywedodd Mr Cairns: "Mae'r prif weinidog wedi gofyn i mi edrych ar ôl buddiannau Cymru, ac wrth wneud hynny byddaf yn trafod gyda phrif weinidog Cymru, ond fe fydd e hefyd am drafod gyda'r gweinyddiaethau eraill yn y DU yn ogystal â Llywodraeth San Steffan.

"Byddwn yn dod i benderfyniad fydd orau ar gyfer y DU, a fy ngwaith i yw sicrhau fod Cymru yn gwbl ganolog i'r trafodaethau hyn."

'Diffyg gweithgarwch'

Dywedodd mai un o'r blaenoriaethau yw sicrhau fod yna reolaeth briodol ar lefelau mewnfudo, er mwyn cwrdd â gofynion cymunedau yng Nghymru ond hefyd busnesau yng Nghymru.

Ychwanegodd fod angen hefyd sicrhau mynediad i farchnadoedd newydd.

"Mae Awstralia, Seland Newydd, India, gogledd America, Singapore - rhain i gyd wedi ymateb yn bositif mewn trafodaethau," meddai.

Mae'r gwrthbleidiau a sylwebyddion wedi beirniadu Llywodraeth Lafur Cymru gan ddweud fod yna ddiffyg gweithgarwch wedi bod ar ôl canlyniad y refferendwm.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi wfftio'r feirniadaeth gan restru nifer o benderfyniadau.

  • Galw am uwchgynhadledd arbennig o Gyngor Prydain Iwerddon yng Nghaerdydd
  • Sefydlu is-bwyllgor newydd o'r cabinet
  • Sefydlu tîm penodol o weision sifil i weithio ar Brexit
  • Llafur a Plaid Cymru yn sefydlu pwyllgor trafod i drafod effaith Brexit
  • Bydd grŵp allan sy'n cynghori ar Brexit yn cwrdd ar 28 Medi

Bydd rhalgen Sunday Politics Wales i'w weld ar BBC One Wales am 11:35 dydd Sul 18 Medi.