Ulster 19-8 Scarlets

Ulster's Louis Ludik scores the opening try at the Kingspan Stadium Image copyright Press Eye
Image caption Louis Ludik yn croesi

Fe wnaeth yr asgellwr Louis Ludik a'r blaenasgellwr Iain Henderson groesi'r llinell wrth i Ulster guro'r Scarlets a sicrhau eu trydedd fuddugoliaeth yn olynol yn y Pro12.

Mae'r canlyniad hefyd yn golygu fod y Scarlets wedi colli tair gêm yn olynol.

Fe groesodd Ludik ar ôl 19 munud wrth i Ulster sicrhau mantais o 11 pwynt ar yr egwyl.

Fe darodd y Scarlets yn ôl gyda'r blaenasgellwr Will Boyde, oedd ymlaen fel eilydd, yn sgorio gyda chais pum munud o'r diwedd ond fe roddodd cais Henderson ddiwedd ar obeithion yr ymwelwyr.

Daeth unig bwyntiau eraill y Scarlets o esgid Rhys Patchell ar ôl 48 munud.

Ulster: C Piutau; C Gilroy, S Olding, S McCloskey, L Ludik; P Jackson, R Pienaar; C Black, R Herring, R Ah You; P Browne, A O'Connor; C Ross, S Reidy, R Diack.

Eilyddion: J Andrew, A Warwick, R Kane, F van der Merwe, I Henderson, A Lloyd, L Marshall, R Lyttle.

Scarlets: A Thomas, L Williams, Jonathan Davies, H Parkes, S Evans, R Patchell, G Davies, W Jones, K Owens, W Kruger, J Ball, D Bulbring, L Rawlins, James Davies, J Barclay.

Eilyddion: R Elias, L Garrett, P Edwards, T Beirne, W Boyde, Aled Davies, S Williams, S Hughes.