Gleision 23-19 Glasgow

Alex Cuthbert crosses for the opening try against Glasgow Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Alex Cuthbert yn sgorio'r cais agoriadol

Fe wnaeth cic gosb hwyr Steven Shingler sicrhau fod y Gleision yn parhau yn ddiguro y tymor hwn wrth iddynt guro Glasgow yng Nghaerdydd.

Fe wnaeth Alex Cuthbert a Ray Lee-Lo groesi yn yr hanner cyntaf gyda Gareth Anscombe yn trosi, gan roi y Gleision 13-0 ar y blaen.

Fe darodd Glasgow yn ôl, gyda Stuart Hogg a Peter Horne yn cael cais yr un.

Roedd y Gleision chwe phwynt ar y blaen ar yr egwyl ond fe wnaeth cais Ali Price ddod a Glasgow o fewn pwynt i'r i'r tîm cartref.

Ond methodd yr ymwelwyr a manteisio ymhellach.

Mae'r fuddugoliaeth yn rhoi'r Gleision ar frig y Pro12, a hwn yw'r tro cyntaf iddynt ennill tair gêm yn olynol ar ddechrau'r tymor.

Gleision : Matthew Morgan; Alex Cuthbert, Cory Allen, Rey Lee-Lo, Tom James; Gareth Anscombe, Lloyd Williams; Gethin Jenkins, Kristian Dacey, Taufa'ao Filise, George Earle, Josh Turnbull, Sam Warburton, Ellis Jenkins, Josh Navidi.

Eilyddion : Matthew Rees, Rhys Gill, Scott Andrews, Macauley Cook, Nick Williams, Tomos Williams, Steven Shingler, Blaine Scully.

Glasgow Warriors: Stuart Hogg, Tommy Seymour, Nick Grigg, Peter Horne, Lee Jones, Rory Clegg, Ali Price, Gordon Reid, Fraser Brown, Zander Fagerson, Tim Swinson, Jonny Gray, Rob Harley, Ryan Wilson, Josh Strauss.

Eilyddion : Pat MacArthur, Alex Allan, Sila Puafisi, Greg Peterson, Lewis Wynne, Grayson Hart, Mark Bennett, Rory Hughes.