Nathan Gill: 'Rhaid i UKIP uno dan yr arweinydd newydd

Nathan Gill
Image caption Cafodd Nathan Gill, sydd hefyd yn parhu i fod yn Aelod Seneddol Ewropeaidd, ei ethol i'r Cynulliad ym mis Mai

Fe fydd dyfodol UKIP yn y fantol os nad ydyn nhw'n uno y tu ôl i'w harweinydd newydd, yn ôl pennaeth y blaid yng Nghymru.

Cafodd Diane James ei chyhoeddi fel arweinydd yng nghynhadledd y blaid ddydd Gwener, gan olynu Nigel Farage.

Mae Nathan Gill, arweinydd UKIP yng Nghymru, nawr wedi galw am ddod â'r cecru mewnol o fewn y blaid i ben.

Fe gyfaddefodd yn ei araith i'r gynhadledd ddydd Sadwrn bod pethau wedi bod yn "gythryblus" ymysg yr aelodau yng Nghymru yn ddiweddar.

Un o benderfyniadau cyntaf Ms James fel arweinydd oedd tynnu Neil Hamilton oddi ar restr siaradwyr y gynhadledd, a rhoi Mr Gill yn ei le.

Roedd Mr Gill wedi cefnogi Ms James fel arweinydd, tra bod Mr Hamilton wedi pleidleisio dros Lisa Duffy.

Cecru'n parhau

Dywedodd Neil Hamilton ei fod mewn "penbleth" ar ôl clywed am y penderfyniad i roi Nathan Gill yn ei le ar restr y siaradwyr.

Mae tipyn o anghydfod wedi bod rhwng y ddau dros y misoedd diwethaf wedi i Mr Hamilton gael ei ddewis fel arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad, gyda Mr Gill bellach yn eistedd fel aelod annibynnol yn y Siambr.

Wrth ymateb i'r araith dywedodd Mr Hamilton y byddai ef wedi rhoi mwy o bwyslais ar waith grŵp UKIP yn y Cynulliad, a bod Mr Gill wedi "colli cyfle".

"Ond dyw e ddim yn aelod o'r grŵp felly allai ddeall pam," ychwanegodd Mr Hamilton.

Straeon perthnasol