Canfod corff ger traeth ym Mhorthcawl

Heddlu

Mae corff wedi cael ei ganfod ger twyni tywod ym Mhorthcawl.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod wedi cael eu galw i ardal twyni tywod Merthyr Mawr ym Mhorthcawl am 17.18 ddydd Gwener.

Cafodd y corff ei gludo i ffwrdd ac mae'r broses o'i adnabod yn parhau.

Mae swyddogion wedi rhoi gwybod i deulu Eddie Wise, 74, sydd wedi bod ar goll o Gas-gwent ers 18 Gorffennaf.

Dywedodd yr heddlu nad oedd unrhyw wybodaeth bellach ar gael ar hyn o bryd.