Doncaster 2-0 Casnewydd

James Coppinger Image copyright Getty Images
Image caption James Coppinger oedd sgoriwr gôl gyntaf Doncaster

Mae Casnewydd wedi llithrio i'r 22ain safle yng Nghynghrair Dau ar ôl colli o 2-0 yn Doncaster.

Fe aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 17 munud o gic rydd James Coppinger.

A chyda Doncaster yn cael y gorau o'r cyfleoedd, dyblwyd y fantais wedi 59 munud gan Andy Williams.

Cafodd Rhys Healey gyfle hwyr i Gasnewydd, ond fe gliriwyd ei beniad oddi ar y linell.