Dreigiau 16-20 Munster

dreigiau Image copyright Huw Evans picture agency

Doedd cais Hallam Amos ddim yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i'r Dreigiau yn erbyn Munster ar Rodney Parade.

Roedd hi'n 10-10 ar yr egwyl, gyda Jean Kleyn yn sgorio cais agoriadol y gêm i'r ymwelwyr cyn i Amos ryng-gipio'r bêl yn wych a charlamu'n rhydd i unioni'r sgôr.

Yn yr ail hanner fe aeth y Dreigiau ar y blaen gyda dwy gic gosb gan Angus O'Brien, a Tyler Bleyendaal yn trosi un hefyd i gadw Munster ynddi.

Ond fe aeth yr ymwelwyr yn ôl ar y blaen wedi i Darren Sweetnam groesi'r linell gais, cyn gollwng y bêl yn ôl ac yna gweld Colm O'Shea yn cyrraedd yno gyntaf i'w thirio'n gyfreithlon.

Fe gafodd y Dreigiau gyfle hwyr i gipio'r pwyntiau, ond fe gafodd y bêl ei tharo ymlaen droedfeddi i ffwrdd o'r linell gais yn symudiad olaf y gêm.