Rio: Efydd i Gymro gyda'r tîm pêl-fasged cadair olwyn

phil pratt Image copyright Reuters
Image caption Phil Pratt (dde) yn cystadlu am y bêl yn ystod y ffeinal

Mae tîm pêl-fasged cadair olwyn Prydain wedi ennill medal efydd yn y Gemau Paralympaidd yn Rio.

Roedd Phill Pratt, 22, yn rhan o'r tîm a drechodd Twrci o 82-76.

Fe aeth yr ornest i amser ychwanegol, ac roedd Twrci'n ennill o chwe phwynt ar un adeg.

Ond fe frwydrodd Prydain yn ôl i sicrhau'r fuddugoliaeth mewn diweddglo cyffrous.