Gweilch 64-10 Treviso

Dafydd Howells Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Dafydd Howells yn tirio ar gyfer pumed cais y Gweilch

Mae'r Gweilch wedi codi i frig y Pro12 ar ôl rhoi cweir i Treviso yn Stadiwm Liberty.

Cafwyd dechrau digon distaw i'r ornest nos Sadwrn, gyda chic gosb yr un i Sam Davies ac Tomasso Allan yn golygu bod y sgôr dal yn 3-3 wedi ugain munud o chwarae.

Ond yna fe ddeffrodd y Gweilch gyda cheisiau gan Ben John, Sam Parry, Jeff Hassler a Dan Evans, pob un yn cael eu trosi, yn rhoi'r tîm cartref 31-3 ar y blaen ar yr egwyl.

Yn yr ail hanner fe ychwanegwyd rhagor o geisiau gan Dafydd Howells, Keelan Giles, Ma'afu Fia ac Alun Wyn Jones, yn ogystal â chais gosb, wrth i'r Gweilch orffen â chyfanswm o naw.

Fe sgoriodd Dean Budd gais munud olaf i'r ymwelwyr o'r Eidal, ond roedd hi'n llawer rhy hwyr i wneud gwahaniaeth.