Disgwyl miloedd allan ar gyfer ras Ironman yn Sir Benfro

Jesse Thomas Image copyright Getty Images
Image caption Jesse Thomas o'r UDA oedd enillydd Ironman Cymru 2015

Mae disgwyl miloedd o bobl allan ar y strydoedd i wylio cystadleuwyr Ironman Cymru yn Sir Benfro ddydd Sul.

Fe fydd dros 2,000 o athletwyr yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth, fydd yn dechrau a gorffen yn nhref Dinbych-y-Pysgod.

Dyma'r chweched gwaith i'r ras adnabyddus ddod i Sir Benfro, ac yn ôl amcangyfrifon mae'r gystadleuaeth yn dod â £3.5m i mewn i'r economi leol.

Bydd nifer o ffyrdd yn ne'r sir ar gau yn ystod y dydd ar gyfer y gystadleuaeth.

Image copyright Getty Images

Mae cyn-chwaraewyr rygbi Cymru Shane Williams, Ryan Jones ac Ian Gough ymysg y rheiny fydd yn cymryd rhan.

Fe fydd cystadleuwyr yn gorfod nofio 2.4 milltir (3.8km), beicio 112 milltir (180km) a rhedeg 26.2 milltir (42km), i gyd o fewn 17 awr.

Fe ddechreuodd y cystadlu toc wedi 07.00 fore Sul, ac mae disgwyl i'r athletwyr proffesiynol cyntaf orffen y ras am tua 16.00 - gyda gwobr o $15,000 (tua £11,300) i'r enillydd.

"Er ei fod yn un o'r cyrsiau anoddaf mae hefyd yn un o'r ffefrynnau, yn bennaf oherwydd yr awyrgylch wych a'r croeso cynnes oddi wrth Sir Benfro gyfan," meddai rheolwr gyfarwyddwr Ironman y DU ac Iwerddon, Kevin Stewart.

Image copyright Getty Images

Straeon perthnasol