Southampton 1-0 Abertawe

austin Image copyright Reuters
Image caption Charlie Austin oedd sgoriwr unig gôl y gêm

Roedd gôl gan yr eilydd Charlie Austin yn ddigon i sicrhau bod Abertawe yn dychwelyd o'u trip i Southampton yn waglaw.

Y tîm cartref reolodd y rhan fwyaf o'r gêm, gan fethu sawl cyfle cyn i ergyd Austin yn yr ail hanner sicrhau'r tri phwynt.

Roedd rheolwr yr Elyrch, Francesco Guidolin wedi penderfynu glynu gyda'r system o bedwar yn y cefn a ddefnyddiodd yn ystod yr ail hanner yn erbyn Chelsea yn eu gêm ddiwethaf - gan adael Neil Taylor allan o'i garfan yn gyfan gwbl.

Fe fethodd Leroy Fer gyfle cynnar i Abertawe wrth iddyn nhw ddechrau'r gêm yn dda, ond yna fe fu'n rhaid i Fabianski arbed ergydion gan Shane Long a Virgil van Dijk, cyn i Nathan Redmond fethu dau gyfle euraidd i Southampton.

Rhoddodd Southampton y bêl yng nghefn y rhwyd ar ddechrau'r ail hanner, ond ni chafodd y gôl ei chaniatáu wedi i'r llumanwr ddyfarnu bod Redmond yn camsefyll wrth iddo roi'r bás olaf i Long.

Image copyright Reuters
Image caption Chafodd ymosodwr Abertawe, Fernando Llorente fawr o argraff ar yr ornest

Ond fe ddaeth Charlie Austin ymlaen am Long wedi 54 munud, ac o fewn deng munud roedd wedi taro'r trawst ac yna canfod lle ar y postyn pellaf i blanu ergyd bwerus i gefn y rhwyd.

Fe anfonodd Gudolin yr ymosodwr newydd Borja Baston i'r cae ar gyfer ei ymddangosiad cyntaf dros yr Elyrch, er mwyn ceisio dod â'r sgôr yn hafal.

Ond fe fethodd Gylfi Sigurdsson gyfle gorau Abertawe yn hwyr yn y gêm, wrth i'w ymdrech gael ei arbed gan Fraser Forster.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Abertawe yn llithro i'r 15fed safle yn y tabl, a dydyn nhw heb ennill gêm yn yr Uwch Gynghrair ers gornest agoriadol y tymor.