Arestio dyn wedi gwrthdrawiad angheuol ym Mlaenafon

Ffordd y Fenni Image copyright Google
Image caption Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd y Fenni ym Mlaenafon

Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i ddynes farw mewn gwrthdrawiad rhwng car a beic modur yn Nhorfaen.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Volvo coch a beic Kawasaki du ym Mlaenafon tua 20:00 nos Sadwrn.

Bu'r ddynes, oedd yn teithio ar y beic modur, farw yn y fan a'r lle.

Cafodd dyn, oedd yn gyrru'r beic, ei gludo i Ysbyty Nevill Hall gyda mân anafiadau.

Fe gafodd gyrrwr y car, dyn 46 oed o Flaenafon, ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Mae bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i'r ymchwiliad barhau.