Marwolaethau awyren ysgafn: Enwi dau ddyn yn lleol

Scott Penlington a Nick Jefferies Image copyright Facebook
Image caption Mae Scott Penlington a Nick Jefferies wedi cael eu henwi'n lleol fel y ddau fu farw

Mae dau ddyn fu farw mewn damwain awyren ysgafn ym Mhowys wedi eu henwi'n lleol fel Scott Penlington a Nick Jefferies o Holmes Chapel yn Sir Caer.

Bu farw'r ddau ddyn yn y digwyddiad ger Cwmbach, Llanfair-ym-muallt ychydig cyn 12:00 ddydd Sul.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio, yn ogystal â changen annibynnol Ymchwiliadau Damweiniau Awyr.

Mae'r crwner wedi cael gwybod am y marwolaethau, ac mae'r teulu yn cael cefnogaeth swyddogion arbenigol.

Image caption Mae'r heddlu wedi cau'r ardal ger y ddamwain