Rhaglen pum mlynedd y llywodraeth 'yn golygu toriadau'

Carwyn Jones
Image caption Dywedodd Carwyn Jones y byddai Llafur yn cadw addewidion y maniffesto

Mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cadarnhau y bydd cynlluniau i ehangu gofal plant a phrentisiaethau am ddim yn golygu bod yn rhaid torri'n ôl yn sylweddol ar raglenni eraill.

Mae addewidion fel ehangu gofal plant am ddim a chreu prentisiaethau wedi'u cynnwys yn rhaglen pum mlynedd y Llywodraeth, gafodd ei gyhoeddi yn y Cynulliad ddydd Mawrth.

Dywedodd y Prif Weinidog fod toriadau yn anochel ond y byddai Llafur yn cadw at ei addewidion yn yr etholiad.

Mae'r addewidion drytaf yn cynnwys 30 awr o ofal plant am ddim i rieni plant tair a phedair oed, a 100,000 o brentisiaethau.

Mae'r rhaglen yn manylu ar yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru'n ceisio ei gyflawni, ac fe fydd y manylion cyntaf am yr hyn fydd yn cael ei dorri yn dod i'r amlwg pan fydd y gyllideb ddrafft yn cael ei chyhoeddi fis nesaf.

'Penderfyniadau anodd'

Dywedodd y ffynhonnell o Lywodraeth Cymru bod "asesiad llawn o bob punt, swllt a cheiniog yr ydym yn ei wario" wedi cael ei gynnal yn dilyn ansicrwydd ariannol Brexit.

Ychwanegodd: "Bydd rhaid gwneud rhai penderfyniadau anodd yn y flwyddyn gyntaf.

"Dydi toriadau bychan ddim am fod yn ddigon y tro yma. Bydd ardaloedd a rhaglenni yn cael eu torri."

Image copyright Llywodraeth Cymru
Image caption Dywedodd Carwyn Jones y bydd yn cadw ei addewid i adeiladu ffordd osgoi ar gyfer yr M4

Mae'r rhaglen - Symud Cymru Ymlaen - yn adlewyrchu nifer o'r addewidion gafodd eu gwneud ym maniffesto Llafur Cymru ar gyfer etholiad y Cynulliad ym mis Mai.

Dywedodd Mr Jones y byddai Llafur yn cadw addewidion fel adeiladu ffordd osgoi ar gyfer yr M4 yn ardal Casnewydd a sefydlu Metro De Cymru.

'Mesurau uchelgeisiol'

"Er bod penderfyniad y Deyrnas Unedig i adael yr Undeb Ewropeaidd yn creu tipyn o ansicrwydd, ac yn cyflwyno tipyn o heriau, mae ein mandad yn glir," meddai Mr Jones.

"Bydd Llywodraeth Cymru'n canolbwyntio'n ddiflino ar wella'n heconomi a'n gwasanaethau cyhoeddus, sydd gyda'i gilydd yn sylfaen i fywydau beunyddiol ein pobl.

"Mae Symud Cymru Ymlaen yn amlinellu ein prif flaenoriaethau ar gyfer cyflawni'r gwelliannau hyn.

"Maent yn fesurau uchelgeisiol, â'r nod o wneud gwahaniaeth i bawb, ar bob cam o'u bywydau.

"Gyda'n gilydd gallwn adeiladu Cymru sy'n fwy hyderus, yn fwy cyfartal, yn fwy medrus ac yn fwy cadarn."

Yn trafod ad-drefnu llywodraeth leol, dywedodd Mr Jones y bydd nifer o wasanaethau yn cael eu darparu "ar sylfaen mwy eang" yn y dyfodol, ond ni wnaeth ddatgelu os oedd hyn yn golygu bod uno cynghorau yn parhau'n debygol.

Polisïau

Mae'r prif addewidion yn cynnwys:

  • Torri cyfraddau busnes ar gyfer cwmnïau llai;
  • 30 awr o ofal plant am ddim i rieni plant tair a phedair oed;
  • 100,000 o brentisiaethau sy'n agored i bobl o bob oed;
  • Hwyluso'r defnydd o feddygfeydd, a sefydlu cronfa ar gyfer triniaethau newydd ac arloesol;
  • Arian i ysgogi gwelliannau i safonau ysgolion, ac i adnewyddu neu adeiladu ysgolion newydd;
  • Adeiladu ffordd osgoi ar gyfer yr M4 a sefydlu Metro De Cymru, a sefydlu cwmni rheilffyrdd newydd nid-er-elw;
  • Band-eang cyflym a dibynadwy i bob cartref yng Nghymru.
Image copyright Thinkstock
Image caption Mae gofal plant, prentisiaethau a meddygfeydd ymysg addewidion y llywodraeth

Dadansoddiad Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru, Daniel Davies

Mae 'na gwestiwn mawr yn wynebu'r blaid Lafur ar ôl 17 mlynedd wrth y llyw ym Mae Caerdydd.

Sut i gynnig rhywbeth newydd i'r etholwyr heb droi eich cefn ar record y blaid?

Fe lwyddodd Carwyn Jones i grynhoi'r broblem yna ym maniffesto Llafur ar gyfer etholiad y Cynulliad mis Mai.

"Nid dyma'r amser i gymryd risg," meddai ar y pryd.

Yn hytrach, fe soniodd am gadw'r momentwm i fynd ac adeiladu ar "sylfeini cadarn".

Felly peidiwch disgwyl newidiadau radical mewn polisi pan fydd Mr Jones yn ceisio egluro sut y bydd yn troi'r maniffesto yna'n realiti yn ei raglen am y llywodraeth ddydd Mawrth.

Ond heb fwyafrif yn y Senedd, gyda chweryla yn ei blaid ei hun a phwysau ar y gyllideb, nid rhwydd hynt fydd hi i Mr Jones nes yr etholiad nesaf ymhen pum mlynedd.

Image caption Dywedodd Rhun ap Iorwerth bod "maniffesto difflach wedi arwain at raglen lywodraeth ddifflach"

'Rhaglen ddifflach'

Mae Plaid Cymru wedi disgrifio'r rhaglen fel un "ddi-fflach", gan ychwanegu ei bod yn "adlewyrchu methiant y blaid i gyflwyno syniadau dyfeisgar".

Dywedodd AC Plaid Cymru Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth: "Prin y gall y gagendor rhwng rhaglen Lywodraeth Llafur a rhaglen yr wrthblaid, Plaid Cymru fod yn fwy o ran sylwedd, sgôp ac uchelgais.

"Nid yw'n syndod fod maniffesto di-fflach wedi arwain at raglen lywodraeth ddi-fflach.

"Ydi, mae'n dda gweld elfennau o'r hyn y sicrhaodd Plaid Cymru yn sgil ein cytundeb un-bleidlais ar ôl yr etholiad, yn cynnwys addewid i greu 100,000 o brentisiaethau newydd a chronfa cyffuriau a thriniaethau newydd, ond mae diffyg dyfeisgarwch Llafur yn gwbl glir unwaith eto.

"Rydym yn benderfynol o weithredu fel prif wrthblaid gadarn a chyfrifol, yn herio Llafur i wneud yn well, ac i'w dwyn i gyfrif pan fyddant yn siomi pobl Cymru."

Image caption Mae Andrew RT Davies wedi beirniadu honiad Carwyn Jones bod Cymru yn perfformio'n well na'r disgwyl

Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud ei bod yn "anodd anghytuno" gyda'r cynlluniau, ond ychwanegwyd bod Llafur heb gyflawni i Gymru ers datganoli.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies: "Efallai bod y Prif Weinidog am ganolbwyntio'n ddidrugaredd ar wella'r economi a gwasanaethau cyhoeddus, ond mae hi wedi bod yn 17 mlynedd o Lywodraeth Lafur sydd wedi gadael Cymru'n dlotach a llai cyfartal.

"Er ei bod yn anodd anghytuno gyda llawer o'r addewidion yn rhaglen y llywodraeth, mae'n amlygu'r nifer o ardaloedd mae'r blaid Lafur wedi gadael Cymru i lawr ers dechrau datganoli yn 1999.

"Ychydig iawn o fanylder sydd ar gael, ac mae honiad Carwyn Jones bod Cymru yn perfformio'n well na'r disgwyl yn ffuglen. Er ein nifer o dalentau amrywiol, mae'r dystiolaeth yn awgrymu mai'r gwrthwyneb sy'n wir.

"Dan arweinyddiaeth Llafur, mae system addysg Cymru y tu ôl i un Fietnam; mae ardaloedd mawr o Gymru yn dlotach na rhannau o Fwlgaria, Rwmania a Gwlad Pwyl; ac amseroedd aros y GIG yng Nghymru yw'r hiraf yn y DU.

"Os yw'r blaid Lafur yn meddwl bod Cymru yn perfformio'n well na'r disgwyl, mae ganddyn nhw feddwl isel iawn o'n gwlad."