Glowyr Orgreave: Galw am ymchwiliad
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Glowyr Orgreave: Galw am ymchwiliad trwyadl

19 Medi 2016 Diweddarwyd 21:23 BST

Mae Aelod Cynulliad fu'n gyfreithiwr i lowyr gafodd eu harestio yn Orgreave ger Sheffield yn 1984 wedi galw am ymchwiliad trwyadl i'r digwyddiadau yno yn ystod Streic y Glowyr.

Wedi adroddiadau dros y penwythnos bod yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd, yn gwrthod cynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn, mae Mick Antoniw yn dweud bod yn rhaid cael pwerau priodol i archwilio dogfennau o'r cyfnod.

Aled Scourfield aeth i gwrdd ag un glöwr o Lanelli gafodd ei arestio yn Orgreave 32 blynedd yn ôl.