Damwain awyren: 'Dim gobaith' gan ddau ddyn o oroesi

damwain awyren Image copyright Wales News Service
Image caption Mae swyddogion yn parhau i archwilio'r safle ddydd Mawrth

Mae perchennog fferm lle ddaeth awyren ysgafn i lawr yn y canolbarth gan ladd dau ddyn wedi dweud nad oedd gan y dynion "unrhyw obaith" o oroesi'r digwyddiad.

Daeth yr awyren i lawr mewn cae sy'n berchen i Steve Powell yng Nghwmbach, Llanfair-ym-muallt, ychydig cyn 12:00 ddydd Sul.

Mae'r ddau, o Holmes Chapel yn Sir Caer, wedi eu henwi'n lleol fel Scott Penlington a Nick Jefferies.

Dywedodd Mr Powell bod yr awyren "fel ei bod wedi disgyn o'r awyr i mewn i'n cae ni".

"Mae'n drychineb ofnadwy ac nid ydym wedi cael unrhyw beth fel hyn o'r blaen," meddai.

"Mae'r heddlu yn archwilio gweddillion yr awyren ond dydyn ni ddim yn gwybod beth ddigwyddodd yn union."

Image copyright Facebook
Image caption Mae Scott Penlington a Nick Jefferies wedi cael eu henwi'n lleol fel y ddau fu farw

Mae'r ymchwiliad i achos y digwyddiad, sy'n cael ei arwain gan Gangen Annibynnol Ymchwilio Damweiniau Awyr, yn parhau ddydd Mawrth.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod y gwaith o adfer y cyrff wedi cael ei gwblhau brynhawn Mawrth, a bod y gwasanaethau brys bellach wedi gadael y safle.