Gwrthdrawiad beic modur: Cyhoeddi enw dynes fu farw

Ray Jones/Ffordd y Fenni Image copyright Heddlu Gwent/Google
Image caption Bu farw Ray Jones yn y gwrthdrawiad ar Ffordd y Fenni ym Mlaenafon

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dynes fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng car a beic modur yn Nhorfaen.

Bu farw Ray Jones o ardal Pont-y-pŵl yn y gwrthdrawiad rhwng Volvo coch a beic Kawasaki du ar Ffordd y Fenni ym Mlaenafon am tua 20:00 nos Sadwrn.

Roedd Mrs Jones, 50 oed, yn teithio ar gefn y beic modur, a bu farw yn y fan a'r lle.

Mewn teyrnged, dywedodd ei theulu ei bod yn "llawn bywyd, cariad a hapusrwydd".

"Roedd pawb yn ei charu fel merch, chwaer, gwraig, mam, nain a ffrind gwych," meddai'r teulu.

Mae gyrrwr y car, dyn 46 oed o Flaenafon, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus.

Fe gafodd gyrrwr y beic modur ei gymryd i Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni i gael triniaeth am fan anafiadau, ond mae bellach wedi'i ryddhau.