Merched Cymru 0-0 Merched Awstria

Cymru Image copyright Huw Evans picture agency

Fe ddaeth ymgyrch Euro 2017 merched Cymru i ben yng Nghasnewydd nos Fawrth gyda gêm gyfartal yn erbyn Awstria.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Cymru yn gorffen yr ymgyrch yn Grŵp 8 yn y trydydd safle.

Cafodd Gymru gyfleoedd da i sgorio yn yr hanner cyntaf - ond roedd cyfleoedd yn brin i'r ddau dîm yn yr ail hanner.

Mae'r pwynt yn ddigon i'r ymwelwyr gadarnhau eu lle yn y rowndiau terfynol yn yr Iseldiroedd.