Lansio ymchwiliad i achos tân yn Ysgol Trefynwy

Ysgol Trefynwy Image copyright Google

Mae ymchwiliad wedi cael ei lansio i achos tân mewn ysgol yn Sir Fynwy.

Cafodd chwe injan dân eu galw i Ysgol Trefynwy am tua 19:00 nos Fawrth i ddelio â'r tân ym mloc gwyddoniaeth yr ysgol.

Llwyddodd 30 o ddiffoddwyr i reoli'r fflamau am 21:40.

Dywedodd yr ysgol bod yr adeilad yn wag ac nad oedd unrhyw anafiadau oherwydd y digwyddiad.

Bydd yr ysgol yn gweithio ar newid yr amserlen i sicrhau na fydd gwersu yn cael eu amharu yn ormodol.