Abertawe 1-2 Manchester City

Aleix Garcia Image copyright Getty Images
Image caption Aleix Garcia yn dathlu ar ôl sgorio

Er i Abertawe gael sawl cyfle i sgorio yn y diwedd roedd hi'n fuddugoliaeth eithaf cyfforddus i Manchester City yn nhrydedd rownd Cwpan EFL yn Stadiwm y Liberty.

Fe wnaeth gôl Gael Clichy roi'r ymwelwyr ar y blaen cyn i Aleix Garcia sgorio'r ail.

Fe fethodd Borja Baston, sydd newydd ymuno â'r Elyrch y tymor hwn, a manteisio ar gyfleoedd gorau Abertawe.

Gylfi Sigurdsson sgoriodd gôl gysur i'r tîm cartref yn y munudau olaf.

Roedd yna wyth o newidiadau i dîm yr Elyrch, yn eu plith Jay Fulton a Kyle Naughton.