Cyn Ysgrifennydd Cymru yn gwadu rhwystro llwybr beicwyr

Ron Davies
Image caption Roedd cyn AS Llafur Ron Davies yn ysgrifennydd gwladol Cymru rhwng 1997 a 1998

Mae cyn Ysgrifennydd Cymru, Ron Davies yn dweud fod fideo sydd wedi dod i law BBC Cymru yn ei ddangos yn symud coed o lwybr troed yng Nghaerffili.

Daw hyn yn dilyn ffrae am lwybrau beicio answyddogol mewn coedwig ar Fynydd Caerffili.

Roedd beicwyr wedi dweud wrth y BBC fod rhwystrau fel cerrig mawr a choed wedi eu gosod yn eu ffordd, allai fod yn beryglus.

Image caption Lluniau CCTV o'r digwyddiad honedig

Mewn ffilm gafodd ei recordio gan gamerau cylch cyfyng, mae Mr Davies i'w weld yn symud deunydd ar y ddaear.

Mewn cyfweliad ddydd Iau, dywedodd ei fod yn "clirio'r rhwystrau o'r llwybr" oedd "yn ei ffordd".

Disgrifiodd y coedwig fel "ased amhrisiadwy" ond ei bod yn cael ei "difa gan leiafrif di-hid a hunanol.