Arestio seren Eggheads mewn cysylltiad â llofruddiaeth

CJ de M Image copyright PA

Mae cyn banelydd rhaglen Eggheads y BBC, sy'n byw yng Nghymru, wedi ei arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth.

Dywedodd yr Heddlu Metropolitan bod CJ de Mooi wedi ei arestio dan ei hen enw, Joseph Connagh, ym Maes Awyr Heathrow yn Llundain ddydd Mercher.

Cafodd ei arestio ar warant Ewropeaidd ddaeth gan heddlu'r Iseldiroedd, a bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Westminster ddydd Iau.

Fe ddaeth CJ de Mooi, sydd yn byw yn Sir Fynwy, yn aelod o banel rhaglen Eggheads yn 2003.