Llafur 'fyth am fod mewn grym' medd cyn sbin ddoctor

Alastair

Mae'n bosib na fydd y blaid Lafur byth mewn grym oherwydd y rhyfel mewnol sydd wedi digwydd o dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn meddai Alastair Campbell.

Wrth siarad gyda chynulleidfa o staff BBC Cymru dywedodd y cyn sbin ddoctor i rif 10 Downing Street fod yna "berygl go iawn" na fyddai Llafur byth yn ennill etholiad cyffredinol arall os bydd Mr Corbyn yn aros fel yr arweinydd.

Mae Mr Campbell yn sicr fod Jeremy Corbyn wedi ennill y ras arweinyddiaeth yn erbyn Owen Smith ond dywedodd na fydd "byth yn cael ei ethol yn Brif Weinidog."

Bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi ddydd Sadwrn.

Dywedodd hefyd fod y cyn arweinydd Llafur, yr Arglwydd Kinnock yn gywir i ofni na fyddai yn gweld llywodraeth Lafur arall yn ystod ei oes: "Mae yna bosibilrwydd mai dyma'r (2005) tro olaf y byddwn ni'n ennill.

"Os ydyn ni ddim mewn grym am 10 mlynedd arall, rydym ni yn siarad am genhedlaeth.

"Yr hyn rydym ni wedi ei weld yn yr Alban yw pan mae pobl yn gweld bod yna ddewis arall maen nhw'n dilyn hynny."

'Gwasgu' Llafur

Fe allai'r blaid Geidwadol neu atgyfodiad y Democratiaid Rhyddfrydol wasgu'r blaid Lafur o'r tir canol meddai.

Gofynnwyd iddo ai dyma ddiwedd y blaid Lafur: "Dw i'n credu y gallai e fod. Dw i wir yn gobeithio nad dyna wnaiff ddigwydd ond mae yna berygl go iawn."

Dywedodd hefyd nad oedd wedi ei argyhoeddi bod Mr Corbyn eisiau ennill etholiad cyffredinol.

Dyw'r cyn newyddiadurwr ddim yn meddwl y bydd y blaid Lafur yn gwahanu ond mae'n dweud bod rhai ar y chwith eisiau i hyn ddigwydd.

"Dw i ddim yn credu fod y frwydr ynglŷn â dyfodol y blaid Lafur yn gorffen ddydd Sadwrn o bell ffordd," meddai.