Sir Gaerlŷr yn trechu Morgannwg o 26 rhediad

Charlie Shreck Image copyright Getty Images
Image caption Lwyddodd Charlie Shreck i gipio pedwar o wicedi Morgannwg

Mae Morgannwg wedi gorffen eu tymor gyda chanlyniad siomedig arall wrth iddyn nhw gael eu trechu gan Sir Gaerlŷr o 26 rhediad.

Yn dilyn dechrau addawol i'r diwrnod, fe wnaethon nhw golli eu chwe wiced olaf am 10 rhediad. Disgynnodd pedair wiced am un rhediad yn unig ar ôl cinio - gyda Clint McKay a Charlie Shreck yn hawlio'r clod i Sir Gaerlŷr.

Y nod oedd sgorio 181 o rediadau er mwyn sicrhau buddugoliaeth, ond fe gwympodd y wicedi'n gyson gan sicrhau buddugoliaeth i'r tîm cartref ar faes Fischer.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Morgannwg yn gorffen y tymor yn yr wythfed safle, un o'r gwaelod, yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd.