Arweinydd UKIP: 'Anhrefn' o fewn y blaid yng Nghymru

Diane James Image copyright PA

Mae arweinydd newydd UKIP wedi dweud mai'r ffaith bod "rhai pobl wedi cyffroi ychydig" sydd ar fai am y cecru mewnol o fewn y blaid yng Nghymru.

Fe gyfaddefodd Diane James bod "anhrefn" wedi bod yn rhengoedd y blaid yn ddiweddar.

Ar hyn o bryd mae arweinydd UKIP yng Nghymru, Nathan Gill yn eistedd fel Aelod Cynulliad annibynnol, tra bod Neil Hamilton yn arwain grŵp y blaid yn y Siambr.

Dywedodd Ms James wrth BBC Cymru y byddai hi'n eu cyfarfod yn unigol ddydd Llun er mwyn ceisio datrys y broblem.

Beirniadu Hamilton

Mynnodd yr arweinydd newydd fod angen i Mr Hamilton ailfeddwl rhai o'i sylwadau yn y gorffennol, gan amddiffyn ei phenderfyniad i adael i Mr Gill siarad yng nghynhadledd y blaid yn ei le.

Roedd Mr Gill wedi cefnogi Ms James fel arweinydd, tra bod Mr Hamilton wedi cefnogi Lisa Duffy.

"Dw i'n meddwl mai beth sydd yn codi o'ch cwestiwn yw mod i wedi etifeddu rhywfaint o anhrefn yma yng Nghymru," meddai Ms James.

Image caption Mae rhwyg wedi bod o fewn UKIP yng Nghymru rhwng Neil Hamilton a Nathan Gill

"Dw i ddim am geisio cuddio hynny ond dw i yma fel arweinydd newydd, dw i wedi bod yn y swydd ers saith niwrnod. Dyma fy nghyfle wrth gwrdd â nhw i geisio datrys unrhyw raniadau, rhoi stop ar y math o iaith y mae Neil wedi'i ddefnyddio.

"Tydw i ddim wedi cael fy mhechu'n bersonol. Mae'n siŵr mai'r rheswm yw bod pobl wedi cyffroi ychydig ar hyn o bryd."

Mae Ms James yn gobeithio siarad ag Aelodau Cynulliad eraill UKIP hefyd, gan ddweud mai ei bwriad oedd gadael Caerdydd â "chriw hapus o Ukippers".