Tri yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad yn Llanrwst

Heol yr Orsaf Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A470, Heol yr Orsaf

Mae tri o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yn Llanrwst nos Iau.

Dim ond un car oedd yn rhan o'r digwyddiad ar yr A470, Heol yr Orsaf, am tua 21:40.

Bu'n rhaid i'r gwasanaeth tân dorri dynes o'r car, ac fe gafodd hi ei chymryd i Ysbyty Glan Clwyd gyda nifer o anafiadau, ond dim rhai sy'n peryglu ei bywyd.

Cafodd y ddau ddyn arall oedd yn y car eu cymryd i'r un ysbyty gydag anafiadau llai difrifol.