Teyrnged i ddau fu farw mewn damwain awyren ym Mhowys

Scott Penlington a Nick Jefferies
Image caption Bu farw Scott Penlington a Nick Jefferies yn y digwyddiad yng Nghwmbach ddydd Sul

Mae teuluoedd wedi rhoi teyrnged i ddau ddyn fu farw pan ddaeth awyren ysgafn i lawr yn y canolbarth ddydd Sul.

Bu farw'r peilot, Nick Jefferies a Scott Penlington, o Holmes Chapel yn Sir Caer yn y digwyddiad yng Nghwmbach, Llanfair-ym-muallt.

Dywedodd teulu Mr Jefferies ei fod "wedi cael dylanwad ar nifer o fywydau".

"Byddai eisiau cael ei gofio am ei straeon, ei gyngor a'i ffordd o fyw bywyd heb unrhyw derfynau," meddai ei deulu.

Fe wnaeth deulu Mr Penlington ddiolch am yr holl deyrngedau y maen nhw wedi'u derbyn iddo.

"Fe fyddwn ni yn ei garu pob tro," meddai'r teulu. "Roedd yn ein gwneud ni oll mor falch, a bydd colled fawr ar ei ôl."

Image copyright Wales News Service
Image caption Cafodd y gwaith o adfer y cyrff ei gwblhau ddydd Mawrth

Mae'r ymchwiliad i achos y digwyddiad yn cael ei arwain gan Gangen Annibynnol Ymchwilio Damweiniau Awyr.

Cafodd y gwaith o adfer y cyrff ei gwblhau ddydd Mawrth. Yn y cyfamser mae profion yn cael eu gwneud ar weddillion yr awyren yn Hampshire.

Straeon perthnasol