Dynes wedi marw mewn gwrthdrawiad difrifol yng Ngwynedd

Heddlu

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl marwolaeth dynes mewn gwrthdrawiad difrifol ar y B4547 yng Ngwynedd.

Dywedodd yr heddlu bod dynes o Ynys Môn wedi marw yn dilyn y gwrthdrawiad ym mhentref Pentir ger Y Felinheli am 12:46 ddydd Gwener.

Y gred yw bod eitem wedi disgyn o do fan VW Transporter, gan daro car BMW gwyn oedd yn teithio i'r cyfeiriad arall.

Roedd y fan yn teithio o gylchfan Groeslon Tŷ Mawr i gyfeiriad Y Felinheli.

Cafodd y ffordd ei chau i'r ddau gyfeiriad yn dilyn y gwrthdrawiad.

"Rydw i'n apelio ar unrhyw un allai fod wedi gweld y digwyddiad neu oedd wedi gweld y cerbydau ychydig cyn y gwrthdrawiad i alw 101 a defnyddio rhif cyfeirnod U145114," meddai'r Sarjant Jason Diamond o Heddlu Gogledd Cymru.