Aaron Ramsey 'yn debygol o fethu gemau nesaf Cymru'

Aaron Ramsey Image copyright Getty Images
Image caption Mae Aaron Ramsey eisoes wedi methu gêm gyntaf Cymru yn ymgyrch ragbrofol Cwpan y Byd

Mae'n debygol na fydd Aaron Ramsey ar gael ar gyfer gemau nesaf Cymru oherwydd anaf, yn ôl ei reolwr yn Arsenal.

Fe fydd tîm Chris Coleman yn wynebu Awstria oddi cartref ar 6 Hydref yn eu grŵp rhagbrofol Cwpan y Byd 2018, cyn croesawu Georgia i Gaerdydd dridiau yn ddiweddarach.

Ond dyw Ramsey heb chwarae ers anafu llinyn y gâr yng ngêm gyntaf y tymor Arsenal yn erbyn Lerpwl.

Yn ôl Arsene Wenger does dim disgwyl iddo fod yn holliach am rhai wythnosau eto.

"Dw i ddim yn meddwl y bydd Ramsey ar gael cyn y cyfnod rhyngwladol," meddai.

Image copyright Getty Images
Image caption Ramsey yn dathlu sgorio'r gôl agoriadol dros Gymru yn erbyn Rwsia yn Euro 2016

Fe fyddai cadarnhad bod Ramsey, 25, yn methu'r ddwy gêm nesaf yn ergyd fawr i Gymru, wrth iddyn nhw geisio adeiladu ar eu buddugoliaeth o 4-0 yn erbyn Moldova yn eu gornest agoriadol.

Y gŵr o Gaerffili oedd un o sêr y tîm yn ystod Euro 2016, ond roedd wedi'i wahardd ar gyfer y rownd gynderfynol pan gollodd y crysau cochion o 2-0 yn erbyn Portiwgal.

Mae Ramsey wedi bod allan gydag anaf ar wyth achlysur gwahanol ers dechrau tymor 2014/15, ac fe gyfaddefodd Wenger ei fod wedi'i ruthro 'nôl heb iddo fod yn hollol ffit cyn iddo dderbyn ei anaf diweddaraf.

Dywedodd is-reolwr Cymru Osian Roberts wrth BBC Cymru ei fod yn "pryderu" gan fod y chwaraewr canol cae bellach wedi bod allan am hirach na'r disgwyl.

"Mae'n siomedig iawn ar ôl y bencampwriaeth wych gafodd Aaron yn yr Euros ei fod wedi cael anaf yng ngêm gyntaf y tymor," meddai.

"Mae'n siom fawr iddo fo ac i ni i gyd. Ond gobeithio y bydd y sefyllfa'n gwella iddo fo."