Leinster 31-19 Gweilch

Image copyright Inpho
Image caption Cafodd Johnny Sexton gêm dda

Leinster 31-19 Gweilch

Daeth record ddi-guro y Gweilch i ben yn Nulyn wrth i'r tîm o Gymru gael eu chwalu gan Leinster mewn hanner cyntaf unochrog.

Ar ôl dechrau addawol i'r tymor yn y Pro 12 gan guro eu tair gêm gyntaf roedd yr her oedd yn wynebu'r Gweilch nos Wener yn un fyddai'n rhoi prawf gwirioneddol arnyn nhw yn ôl yr arbenigwyr. Ac felly y buodd hi.

Yn yr hanner cyntaf roedd blaenwyr Leinster yn feistri corn ac fe sgoriodd y Gwyddelod dri chais heb i'r Cymry gael pwynt ar y bwrdd. 24 pwynt i 0 oedd y sgôr hanner amser.

Er mwyn gwneud gêm ohoni roedd hi'n allweddol i'r Gweilch sgorio gyntaf yn yr ail hanner. Ond o fewn dim roedd Leinster wedi sgorio cais gwych arall pan gipiodd Josh van der Flier ei ail.

Ar ôl i faswr Leinster ac Iwerddon, Johnny Sexton, gael cerdyn melyn fe lwyddodd y Gweilch i daro'n ôl ac adfer rhywfaint o hunan barch.

Yn wir fe lwyddon nhw i sgorio tri chais o fewn ychydig amser i'w gilydd.

Er hynny doedd dim amheuaeth nad Leinster oedd y tîm gorau o ddigon er mawr siom i'r clo Alun Wyn Jones oedd yn chwarae ei ddauganfed gêm i'r Gweilch.