Dynes, 73, wedi marw wedi gwrthdrawiad gyda bws

heddlu

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl marwolaeth dynes 73 oed yn dilyn gwrthdrawiad gyda bws yng Nghasnewydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Heol y Bont am tua 15:00.

Mae dyn 28 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal ac mae yn y ddalfa.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda'r heddlu ar 101.