Nia Griffith
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Griffith yn fodlon gwasanaethu eto

24 Medi 2016 Diweddarwyd 10:01 BST

Mae aelod seneddol Llafur blaenllaw o Gymru wedi dweud y byddai'n fodlon i wasanaethau eto fel rhan o dîm Jeremy Corbyn pe bai ef yn cael ei ailethol fel arweinydd Llafur.

Fe wnaeth Nia Griffith, AS Llanelli, ymddiswyddo fel aelod o Gabinet yr wrthblaid fis Mehefin, gan ddweud fod Mr Corbyn wedi "colli hyder y blaid."

Mewn cyfweliad gyda Newyddion 9 y BBC dydd Gwener dywedodd Ms Griffith y byddai hi nawr yn fodlon derbyn swydd ar y fainc blaen pe bai un yn cael ei gynnig.

"Dwi'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn uno. Yn y cyd-destyn yna rwy'n fodlon gwasanaethu fel rhan o dîm sy'n adlewyrchu pob adain o'r blaid."

Fe fydd canlyniad y bleidlais i ddewis arweinydd newydd yn cael ei gyhoeddi am 11:45 dydd Sadwrn.