Wrecsam 0-0 Caer

Wrexham manager Gary Mills Image copyright Getty Images

Fe wnaeth amddiffyn di-ildio gan yr ymwelwyr sicrhau gêm gyfartal i Caer ar y Cae Ras.

Tim Gary Mills oedd yn rheoli yn llwyr yn yr hanner cyntaf, ond fe fethodd Michael Bakare a manteisio ar ddau gyfle da gyda'i ben.

Cafodd John Rooney gerdyn melyn ar ôl ei dacl ar Craig Mahon, ac mae'n bosib ei fod yn ffodus i aros ar y cae.

Methodd yr un o'r ddau dîm a dod yn agos yn yr ail hanner ac roedd yna ddicter ymhlith y dorf ar ddiwedd y gêm.

Dywedodd Mills: "Roedd yna ddau neu dri o gyfleoedd da."

"Ar y cyfan roeddem yn ddigon cadarn. Fe weithiodd y chwaraewyr yn galed ond yn anffodus yn methu a chael y gôl fyddai wedi ennill y gêm."