Rotherham 1-2 Caerdydd

Rickie Lambert Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Sgoriodd Rickie Lambert ddwy gôl i sicrhau'r fuddugoliaeth

Fe wnaeth Caerdydd daro nôl gyda dwy gôl gan Rickie Lambert wrth sicrhau buddugoliaeth yn Rotherham.

Sgoriodd Lambert, cyn ymosodwr Lerpwl, dwywaith o fewn pum munud gan leihau'r pwysau ar y rheolwr Paul Trollope.

Aeth y tîm cartref ar y blaen drwy gôl Isaiah Brown wedi 60 munud.

Daeth gôl cyntaf Caerdydd yn dilyn cic rydd Peter Whittingham, gyda Lambert yn penio i gefn y rhwyd.

Sgoriodd y gôl fuddugol ar ôl 79 munud.

Mae'r fuddugoliaeth yn gweld Caerdydd yn codi i safle 21 yn y Bencampwriaeth.