Abertawe 1-3 Manchester City

Sergio Aguero Image copyright Getty Images
Image caption Sergio Aguero

Dim ond gwahaniaethau goliau sy'n gwahanu Abertawe o'r timau ar waelod yr Uwch Gynghrair ar ôl iddynt golli i Manchester City ar Stadiwm Liberty.

Hon oedd buddugoliaeth rhif chwech i City o dan reolaeth Pep Guardiola.

Fe wnaeth Sergio Aguero roi'r ymwelwyr ar y blaen, ond sgoriodd Fernando Llorente ei gôl gyntaf i'r Elyrch wrth ddod â'r sgôr yn gyfartal gyda foli pedwar munud yn ddiweddarach.

Sgoriodd Aguero ei ail gôl wedi'r egwyl gyda chic o'r smotyn ar ôl trosedd gan Mike van der Hoorn ar Kevin De Bruyne.

Wrth i Abertawe bwyso, fe wnaeth City wrthymosod gyda Raheem Sterling yn selio'r fuddugoliaeth.