Casnewydd 1-2 Caergrawnt

Rhys Healey heads the ball past Cambridge goalkeeper Will Norris Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Peniad Rhys Healey yn rhoi Casnewydd ar y blaen

Mae Casnewydd wedi gostwng i'r safle isaf ond un yn yr Ail Adran ar ôl colli i Gaergrawnt, y tîm ar y gwaelod.

Sgoriodd yr ymwelwyr ddwy gôl yn yr ail hanner i sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o'r tymor.

Casnewydd aeth ar y blaen ar ôl 10 munud drwy beniad Rhys Healey yn ei gêm lawn gyntaf.

Uche Ikpeazu darodd yn ôl i Gaergrawnt, gyda Luke Berry yn sgorio'r gôl fuddugol.

Golygai'r canlyniad fod Casnewydd uwchben Caergrawnt ar wahaniaeth goliau.