Mudwyr: Galw am fwy o bwyslais ar ddysgu Cymraeg

Lecturer Gwennan Higham says new arrivals face 'barriers' to learning Welsh Image copyright Canolfan Dysgu Cymraeg, Prifysgol Caerdydd

Yn ôl un AC dyw'r rhan fwyaf o fudwyr i Gymru "prin yn ymwybodol fod yr iaith Gymraeg yn bodoli."

Yn ôl Neil McEvoy AC, sy'n aelod o Bwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu y Cynulliad Cenedlaethol, nid yw nifer o bobl sy'n dod i'r wlad yn clywed gair o'r iaith

Mae'r pwyllgor wedi bod yn ystyried deiseb sy'n galw am fwy o bwyslais ar ddysgu'r Gymraeg.

Cafodd y ddeiseb, sydd erbyn hyn wedi ei hanfon at sylw'r Comisiynydd Iaith, ei threfnu gan Remigijus Siauciunas sy'n wreiddiol o Lithuania.

Dywedodd ei fod o'n siomedig gan y cyfleoedd oedd yna i ddysgu Cymraeg yng Nghaerdydd.

"Roedd e'n anodd. Mae pobl yn edrych arno yn negyddol," meddai.

"Roeddwn yn gweld hyn yn rhyfedd - eich bod yn gallu dysgu Saesneg am ddim mewn sawl lle, ond nid y Gymraeg. Dyw hi ddim yn deg."

Dywedodd Mr McEvoy, AC Plaid Cymru Canol De Cymru, does gan nifer o newydd-ddyfodiaid ddim syniad am yr iaith:

"O ran y bobl sy'n newydd gyrraedd Cymru, mae ymwybyddiaeth ddiwylliannol y wlad bron yn cael ei hanwybyddu yn llwyr," meddai.

Image caption Dr Mahmoud Elsayed a'r llawfeddyg Phillip Moore, y ddau wedi dysgu Cymraeg

Ond un sydd wedi mynd ati i ddysgu'r iaith ar ôl symud yma yw Dr Mahmoud Elsayed o'r Aifft sydd nawr yn byw ym Mangor.

"Mae fy mhlant yn dysgu'r iaith yn well na fi, a dyna wnaeth fy annog i ddysgu, nawr rwy'n gallu darllen straeon gyda nhw," meddai.

Mae Dr Elsayed yn un o nifer o staff Ysbyty Gwynedd, sy'n wreiddiol o wledydd tramor, sy'n dysgu'r iaith drwy wersi sy'n cael eu cefnogi gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.

Manteision

Mae pob un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn cynnig help i staff i ddysgu'r iaith, gyda nifer yn talu am wersi.

Dywed Betsi Cadwaladr mai'r nod yw sicrhau gweithlu dwyieithog.

Dywed Dr Elsayed fod dysgu'r iaith wedi bod o fantais yn broffesiynol ac o safbwynt personol.

"Os rwy'n siarad Cymraeg gyda chleifion, maen nhw'n teimlo'n hapus ac am gydweithredu.

"Pe bai chi yn wan, dyw'r ymennydd ddim mor gryf. Gallwch ond siarad yn eich iaith gyntaf. Nid oes gennych y nerth i gyfieithu."

Mae ei gydweithiwr, y llawfeddyg Phillip Moore o Farbados, wedi pasio arholiad Lefel Uwch yn y Gymraeg.

"Mae dysgu iaith yn helpu chi i ddod yn rhan o'r gymuned. Mae rhan o ymsefydlu mewn unrhyw wlad yn golygu cael dealltwriaeth o'r iaith leol."

Cafodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ei sefydlu ar 1 Awst ac mae'n cynnig cyfle i ddysgu'r iaith.

Mae cyrsiau ar gael yn y dydd a gyda'r nos ac ar-lein, ac mae yna ddisgownt i fyfyrwyr a'r rhai sy'n derbyn lwfansau.

Mae cronfa hefyd ar gael ar gyfer dysgwyr sy'n ei chael yn anodd i dalu am wersi.

Yn ogystal â hyn, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu 23 o Fentrau Iaith sy'n gyfrifol am hybu defnydd yr iaith.

Image copyright Nick Treharne/ Welsh Refugee Council
Image caption Fe wnaeth Salah Rasool dyngu llw yn Gymraeg wrth briodi

Mae Salah Rasool o dras Cwrdaidd a nawr yn byw yng Nghaerdydd ac yn dweud iddo deimlo ei fod yn bwysig iddo wneud ymdrech i ddysgu'r iaith er mwyn bod yn rhan o'r gymuned.

"Fe wnes i hyd yn oed gymryd llw fy mhriodas yn y Gymraeg." meddai.

Mae Gwennan Higham, darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, newydd orffen doethuriaeth ar ffoaduriaid sy'n dysgu Cymraeg.

Mae hi'n dweud fod yna her mewn rhai ardaloedd fel Caerdydd ond fod dysgu'r iaith yn "agor drysau" ac yn ased i bobl sydd am barhau â'u gyrfa yng Nghymru."

Dywedodd y dylai'r un adnoddau gael eu rhoi ar gyfer gwersi Cymraeg a Saesneg i fewnfudwyr.

Mae hi yn rhoi rhan o'r bai ar beth ma hi'n credu yw pwyslais y llywodraeth "ar gael siaradwyr i ddefnyddio'r iaith, yn hytrach na chreu dysgwyr newydd."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i sicrhau parhad yr iaith.

Y ffocws gwreiddiol oedd gwella Saesneg pobl sy'n cyrraedd "er mwyn gallu sicrhau gwaith a hyfforddiant er mwyn iddynt gyfrannu ac addasu i fyw mewn gwlad newydd."

Ond ychwanegodd: "Mae rôl dysgu'r iaith ac am ddiwylliant yn sylfaenol er mwyn i ddyfodiaid newydd ddeall pwysigrwydd yr iaith Gymraeg i gymunedau led led Cymru.

"Awdurdodau lleol sy'n penderfynu sut i ddosbarthu arian ar gyfer darparu ar gyfer anghenion iaith, a hynny wedi eu seilio ar angen ac ystyriaethau wrth geisio cymhathu dyfodiaid newydd."

Image caption Dywed Neil McEvoy AC nad yw rhan fwyaf o fudwyr yn ymwybodol o fodolaeth yr iaith