Scarlets 17-8 Connacht

Liam Williams Image copyright Huw Evans agency
Image caption Liam Williams

Fe wnaeth Liam Williams groesi'r llinell ddwywaith wrth i'r Scarlets sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o'r tymor yn erbyn Connacht.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod y Scarlets yn codi o safle 11 i'r wythfed safle yn y Pro12.

Connacht, pencampwyr y llynedd, sydd nawr ar waelod y cynghrair.

Roedd yna gais cofiadwy i Williams, ac asgellwr Connacht Niyi Adeolokun, yn yr hanner cyntaf.

Yr ymwelwyr oedd ar y blaen ar yr egwyl diolch i gic cosb Jack Carty.

Ond daeth buddugoliaeth Scarlets diolch i ail gais Williams a gôl adlam Rhys Patchell.