Beiciwr wedi marw ar yr A487 yng Ngwynedd

The A487 near Penrhyndeudraeth Image copyright Raimund Zozmann/Geograph

Dywed yr heddlu fod beiciwr a gafodd ei ganfod yn anymwybodol ar yr A487 yng Ngwynedd wedi marw.

Cafwyd hyd i'r dyn 38 oed ym Minffordd ger Penrhyndeudraeth, ychydig cyn 06:30 ddydd Sadwrn.

Ceisiodd parafeddygon ei drin ond bu farw'n ddiweddarach.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tim Evans o Heddlu'r Gogledd nad oeddynt yn gwybod beth achosodd ei farwolaeth ond nad oedd hi'n ymddangos fod yna amgylchiadau amheus.

Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod.