Arweinydd newydd i gwrdd â ACau UKIP

Diane James Image copyright Getty Images
Image caption Cafodd Diane James ei dewis fel arweinydd newydd UKIP yn lle Nigel Farage

Fe fydd arweinydd newydd UKIP, Diane James, yn ymweld â'r Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Llun, gan gwrdd ag ACau'r blaid.

Mae disgwyl iddi gwrdd â thri o'r aelodau mewn cyfarfodydd unigol, yn dilyn cyfnod o gecru mewnol yn y blaid yng Nghymru.

Ym mis Mai fe enillodd y blaid saith o seddi yn etholiad y Cynulliad.

Ond ers hynny mae'r sylw wedi ei hoelio ar gecru mewnol, gyda rhai yn cefnogi Nathan Gill, arweinydd y blaid yng Nghymru ond sydd nawr yn eistedd fel aelod annibynnol, tra bod eraill yn cefnogi Neil Hamilton, arweinydd UKIP yn y cynulliad.

'Rhoi ffocws ar Gymru'

Yr wythnos diwethaf dywedodd Diane James ei bod yn "llwyr gefnogi" Mr Gill a galwodd ar Mr Hamilton i "roi ffocws ar Gymru a'r Cynulliad".

Dywedodd Ms James: "Rwy'n mynd i ofyn i Neil Hamilton roi ffocws ar y Cynulliad Cenedlaethol, ac ar ennill etholiadau yng Nghymru. Rwy'n mynd i ofyn i Nathan i barhau i wneud y jobyn gwych mae o'n ei wneud yn nhermau cynrychioli Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd."

Mae hi hefyd wedi ceisio awgrymu nad yw'r gwahaniaethau yn rhai rhy ddifrifol.

Dywedodd Ms James fod hyn yn ganlyniad i "bobl wedi eu cyflyru ychydig yn ormod".

Derbyniodd ei bod wedi etifeddu "ychydig bach o anrhefn yng Nghymru" ond roedd ACau UKIP yn "grŵp gwych o bobl" ac y byddai'n cwrdd â nhw yn unigol er mwyn ceisio lleihau'r gwahaniaethau.

Image caption Dywedodd Caroline Jones AC bod aelodau yn cefnogi Ms James 100%

Cyn ymweliad Ms James, dywedodd yr AC Caroline Jones, fod aelodau'r blaid yn "edrych ymlaen at fath gwahanol o arweinyddiaeth i Nigel Farage" gan ychwanegu y byddant yn cefnogi'r arweinydd newydd 100%.

"Mae hi wedi estyn ei chyfeillgarwch i Douglas Carswell ac mae wedi dod â Suzanne Evans yn ôl i'n rhengoedd, felly dwi'n meddwl mai bwriad Diane yw uno'r blaid."

Ond fe wnaeth Ms Jones wfftio awgrymiadau o raniadau o fewn y grŵp yn y cynulliad.

"Mae chwech o'r ACau wedi bod yn gweithio yn dda gyda'i gilydd."

Fe wnaeth UKIP ennill saith sedd ym mis Mai ond yna fe adawodd Mr Gill i eistedd fel aelod annibynnol, gan honni fod cecru mewnol yn rhwystro'r grŵp rhag gwneud eu gwaith.

Mae o'n parhau i fod yn AS Ewropeaidd ac ef yw arweinydd y blaid yng Nghymru.