Gwrthdrawiad angheuol

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion ar ôl i gerddwr farw ar ôl cael ei daro gan gerbyd yn Sir Ddinbych.

Roedd Mike Juha yn wreiddiol o'r Weriniaeth Siec ac fe symudodd i'r Rhyl yn 2006.

Roedd yn cerdded ar ffordd osgoi Rhuddlan, yr A525, tuag at Y Rhyl tua 04:25 dydd Sadwrn.

Aed ag ef i Ysbyty Glan Clwyd lle bu farw o'i anafiadau.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion i'r digwyddiad.

Mewn teyrnged dywedodd ei deulu: "roedd nifer yn ei adnabod ac yn ei garu, fe fydd ei deulu a'i ffrindiau yn y DU ac yn Weriniaeth Siec yn ei golli, ac felly pawb oedd yn ddigon lwcus i'w adnabod.