Adfywio eglwys Gymraeg olaf Caer

capel

Mae yna bosibilrwydd y bydd meithrinfa ac Ysgol Sul yn cael eu sefydlu yn eglwys Gymraeg olaf Caer, mewn ymateb i ostyngiad dros y blynyddoedd yn nifer yr unigolion sy'n ymhél a gweithgareddau Cymraeg yn y ddinas.

Dyna un o'r cynlluniau sy'n cael eu hystyried er mwyn rhoi bywyd newydd i Eglwys Bresbyteraidd St. John Street, fu'n nodi carreg filltir bwysig dros y penwythnos.

Mae hi'n 150 mlynedd eleni ers sefydlu'r addoldy, sydd o fewn tafliad carreg i brif ardal siopa'r ddinas.

Roedd y dathliadau'n cynnwys arddangosfa, sesiwn hel atgofion, oedfa gymun a chymanfa ganu nos Sul.

Image caption Parchedig Robert Parry, sy'n rhannu ei amser rhwng y capel yng Nghaer ac Eglwys y Groes yn Wrecsam

Dywedodd Llywydd Cymdeithas Cymry Caer - sydd hefyd yn cynnal gwasanaethau yn y capel bob yn ail ddydd Sul - fod y gynulleidfa yn "oedrannus" ond ei fod yn "gwrthod yn lan ag anobeithio" ynglŷn â'r dyfodol.

"Rwy'n gobeithio dyblu'r gynulleidfa - dyna'r nod," meddai'r Parchedig Robert Parry, sy'n rhannu ei amser rhwng y capel yng Nghaer ac Eglwys y Groes yn Wrecsam.

Cenhadu

"Rydan ni wedi bod yn cenhadu. Yn ddiweddar, rydan ni wedi agor y capel i'r cyhoedd am ddau ddiwrnod gyda Chymdeithas Treftadaeth Caer."

Ychwanegodd: "Un o'r prosiectau mewn golwg ydi cychwyn crèche. Rydw i wedi clywed am dri theulu lle mae un rhiant o Gymru. Dwi'n gobeithio dechrau crèche ac Ysgol Sul."

Mae Is-lywydd Cymdeithas Cymry Caer, Eirwyn Davies, yn aelod o'r capel ers 55 mlynedd, ac yn cofio cyfnod pan roedd yr adeilad dan ei sang yn rheolaidd.

"Roedd yna yn agos at 400 o aelodau," meddai. "Gwaetha'r modd, mae'r aelodaeth wedi suddo erbyn hyn i 40."

"Roedd pum capel Cymraeg yma ers talwm, ond maen nhw i gyd wedi cau rŵan heb law am hwn," meddai Gwenllïan Magee, Ysgrifennydd Cymdeithas Cymry Caer.

"Roedd yna Aelwyd yr Urdd dda iawn - a mawr iawn yma ers talwm. Roedd yna gwmni drama yma, ac Eisteddfod lewyrchus iawn."

Awgrymodd Eirwyn Davies fod Cymry'n tueddu i deithio'n ôl ac ymlaen dros y ffin erbyn hyn ar ôl cael gwaith yn ardal Caer, yn hytrach nag ymgartrefu yno, yn groes i'r hyn oedd yn arfer digwydd yn y gorffennol.