Angen gwella unedau babanod newydd-anedig, medd adroddiad

uned newydd-anedig
Image caption Uned babanod newydd-anedig

Mae adroddiad newydd gan Goleg Brenhinol Paedeatrig a Gofal Plant (RCPCH) yn galw am greu partneriaethau rhwng unedau babanod newydd-anedig ac ysbytai eraill er mwyn gwella safon y gofal.

Dangosodd adroddiad y coleg bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar ei hôl hi mewn sawl maes amlwg o'i gymharu â Lloegr a'r Alban.

Yn ôl ffigyrau 2015, dim ond 31% o'r babanod gafodd eu geni'n gynnar yng Nghymru oedd wedi cael ail apwyntiad erbyn iddyn nhw gyrraedd dwy oed - tipyn yn is na'r cyfartaledd o 60% ar draws Prydain.

Mae apwyntiad pan fo plentyn yn ddwy oed yn gyfle pwysig i adnabod unrhyw broblemau yn eu datblygiad, meddai'r RCPCH.

Dywedodd Dr Roshan Adappa, sy'n aelod o'r coleg a hefyd yn feddyg plant yn Ysbyty Athrofaol Cymru Caerdydd: "Tra bod rhai unedau babanod newydd-anedig yn darparu gofal da i fabanod, mae 'na ddiffygion sydd angen sylw er mwyn i'r gofal fod yn un arbennig."

Llai yn bwydo o'r fron

Fe gododd yr archwiliad bryderon eraill ynglŷn â gofal babanod yng Nghymru, gyda dim ond 86% yn cael eu sgrinio am gyflwr allai effeithio ar olwg babanod, yr ail gyfradd isaf yn y DU.

Mae gan Gymru hefyd y trydydd cyfradd isaf (80%) o ran cynnal trafodaeth â rhieni o fewn 24 awr i gael eu derbyn i'r ysbyty.

Cymru sydd hefyd â'r gyfradd cydradd isaf o ran babanod newydd-anedig oedd yn cael eu bwydo o'r fron, gyda'r ganran yn gostwng o 46% i 43% o fewn blwyddyn.

Mae hypothermia yn parhau'n broblem cyffredinol ar draws y DU, gyda 28% o'r babanod sy'n cael eu geni'n gynnar â thymheredd sydd yn is nag y dylai fod.

Ond roedd yr adroddiad hefyd yn canmol rhai agweddau o fewn y gwasanaeth yng Nghymru, gan gynnwys y ffaith bod 88% o'r mamau roddodd enedigaeth gynnar wedi derbyn steroid cyn geni, sy'n lleihau'r risg o drafferthion anadlu i'r babi.

Roedden nhw'n ffyddiog fod y gofal ar gael i fabanod ar y cyfan yn dda, ond yn dweud bod angen mwy o gydweithio er mwyn codi safonau.

Image caption Ffurfio partneriaethau yw'r ffordd ymlaen, yn ôl Dr Roshan Adappa

"Wrth gymharu â'r Alban a rhwydweithiau yn Lloegr, mae gan Gymru'r gyfradd isaf pan mae'n dod at fwydo gyda llaeth y fam," meddai Dr Roshan Adappa.

"Mae ganddi'r ganran uchaf o fabanod ble nad oedd unrhyw ddata profion llygad yn cael ei roi o gwbl ac mae ganddi'r gyfradd isaf, o bell ffordd, pan mae'n dod at gofnodi data prawf iechyd dyflwydd y plentyn.

"Bwriad y profion iechyd hyn yw cadarnhau bod y plentyn yn datblygu fel y disgwyl. Os nad ydyn nhw'n eu derbyn, fe allai anableddau pwysig gael eu methu, ac fe allai oedi fod wrth ddarparu'r gofal perthnasol iddyn nhw.

"Gyda chymaint o arfer da ar hyd a lled y wlad, rydw i'n annog unedau i ffurfio partneriaethau ag ysbytai eraill er mwyn codi safonau gofal fel bod babanod sydd yn cael eu derbyn gan y gwasanaethau newydd-anedig yng Nghymru'n derbyn y driniaeth orau phosib."

'Diffyg staff'

Ym mis Gorffennaf eleni fe rybuddiodd elusen Bliss bod diffyg nyrsys a meddygon newydd-anedig yng Nghymru yn golygu bod dros hanner yr unedau ddim yn cael eu staffio'n ddigonol, a bod safonau diogelwch ddim yn cael eu cyrraedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod yn gwario £85m ar hyfforddi staff ac fe ddywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones y byddai disgwyl i'r unedau newydd-anedig gael eu staffio'n ddigonol erbyn 2021.

"Mae unedau Cymreig yn perfformio'n gymharol yn y rhan fwyaf o feysydd ac o fewn y safonau disgwyliedig mewn nifer o fesurau archwilio," meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

"Yn y meysydd hynny ble mae angen gwell... bydd angen i'r holl unedau babanod newydd-anedig yng Nghymru ystyried canfyddiadau'r adroddiad a datblygu cynllun gweithredu lleol er mwyn taclo unrhyw ddiffygion sydd wedi'u hamlygu yn y safonau."