Darganfod campwaith gwerth £3m mewn storfa yn Abertawe

Celf Image copyright Heritage Images

Mae campwaith celfyddydol gwerth £3m sydd yn waith i artist Fflemeg o'r 17g wedi ei ddarganfod mewn storfa yn Amgueddfa Abertawe.

Doedd arbenigwyr celf ddim yn ymwybodol o fodolaeth y darlun "pwysig a chywrain" gan yr artist Jacob Jordaens - oedd yn ddisgybl i Peter Paul Rubens - cyn iddo gael ei ddarganfod.

Yr uchafswm sydd wedi ei dalu am waith Jordaens mewn arwerthiant yw £3.6m ($4.7m).

Roedd y gwaith wedi ei adnewyddu'n lleol gyda lliw yr awyr a mwng y ceffylau yn y darlun wedi eu newid.

Cafodd y gwaith ei adnabod gan yr hanesydd celf Bendor Grosvenor, ar gyfer cyfres newydd ar BBC Four, Britain's Lost Masterpieces.

Mae'r darlun yn astudiaeth mewn olew ar gyfer un o ddarluniau enwocaf Jordaens, Atalanta & Meleager, sydd yn amgueddfa'r Prado ym Madrid.

Dywedodd Ben van Beneden, cyfarwyddwr Amgueddfa Rubenshuis yn Antwerp: "Mae'n ddarganfyddiad gwych. Does gen i ddim amheuaeth o gwbl ein bod yn edrych ar ddarlun sydd yn dangos hanfodion gwaith Jordaens."

Marciau

Daeth cliw pwysig yn yr ymdrech i wirio'r darlun ar ôl darganfod marciau masnachwyr ar gefn y gwaith.

Roedd y rhain yn gyfuniad o'r llythyren A ag arfbais Antwerp, sef cartref Jordaens, yn awgrymu fod y panel oedd yn dal y darlun wedi ei greu rhwng 1619 a 1621.

Dywedodd Dr Grosvenor: "Ar yr olwg gyntaf doedd y darlun hwn ddim yn edrych yn un anghyffredin. Ond er yr holl baent oedd wedi ei ychwanegu drosto, roedd 'na gipolwg o ddarlun gwych yn brwydro i ddod allan.

"Roedd modd i ni ddangos fod y llun nid yn unig yn un pwysig a chywrain, ond un sy'n ein galluogi i ail-ysgrifennu stori un o fy hoff artistiaid, Jacob Jordaens."

Mae'n debyg fod Amgueddfa Abertawe wedi bod yn berchen ar y darlun ers 150 o flynyddoedd ac roedd wedi ei gofnodi fel gwaith artist dienw o'r 18g.

Mae'r darlun yn Llundain ar hyn o bryd ond fe fydd yn cael ei arddangos yn Abertawe o ddydd Iau.