Teyrngedau i ddyn fu farw ger Rhuddlan ddydd Sadwrn

Teyrngedau Image copyright Llun teulu

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i ddyn o'r Rhyl fu farw ar ôl cael ei daro gan gerbyd ger Rhuddlan, Sir Ddinbych.

Roedd Mike Juha yn cerdded ar hyd ffordd yr A525 am tua 04:25 ddydd Sadwrn pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan lle bu farw o'i anafiadau.

Daeth Mr Juha i Gymru o'r Weriniaeth Tsiec yn 2006, ac roedd yn gweithio fel cogydd mewn caffi yn harbwr y Foryd.

Dywedodd ei deulu fod Mr Juha yn hoff o feicio mynydd, chwaraeon eira a hedfan barcud.

Roedd Mr Juha yn "cael ei adnabod a'i garu gan lawer, ac fe fydd colled fawr ymysg ei deulu a'i ffrindiau ar ei ôl," meddai'r deyrnged.